Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mawrth, 8
Tachwedd 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i'r Prif Weinidog
(45 munud)
Mae’r Llywydd wedi cael gwybod, o dan Reol Sefydlog 12.58, y bydd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd yn ateb cwestiynau ar ran y Prif Weinidog.
Bydd y Llywydd yn galw ar Arweinwyr y Pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
(30 munud)
Gweld y Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Gwella effeithlonrwydd ynni cartrefi Cymru
(30 munud)
4 Datganiad gan y Gweinidog Newid Hinsawdd: Polisi Ynni
(30 munud)
5 Datganiad gan y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd: Ffliw adar
(30 munud)
6 Rheoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022
(15 munud)
NDM8117 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 (Diwygiadau Canlyniadol) 2022 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Hydref 2022.
Dogfennau
Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y
Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad
– wedi’i diweddaru
7 Rheoliadau Treth Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru) (Diwygio) 2022
(15 munud)
NDM8116 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Reoliadau Treth
Trafodiadau Tir (Bandiau Treth a Chyfraddau Treth) (Cymru)
(Diwygio) 2022 a
osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 7 Hydref.
Dogfennau Ategol
Memorandwm
Esboniadol
Adroddiad y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder
a’r Cyfansoddiad
Adroddiad y Pwyllgor Cyllid
8 Dadl: Cymorth i Gymuned y Lluoedd Arfog
(60 munud)
NDM8118 - Lesley Griffiths (Wrecsam)
Cyd-gyflwynwyr:
Darren Millar
(Gorllewin Clwyd)
Siân
Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn cofio ac yn cydnabod cyfraniad pawb sydd wedi gwasanaethu yn ein Lluoedd Arfog ac sy’n gwasanaethu ynddynt yn awr, yn enwedig y rhai a wnaeth yr aberth eithaf.
2. Yn mynegi ei diolchgarwch i’r Lluoedd Arfog yng Nghymru am eu cyfraniad parhaus i fywyd Cymru.
3. Yn croesawu ac yn talu teyrnged i’r gefnogaeth y mae sefydliadau’r trydydd sector yn ei darparu i’n cymuned Lluoedd Arfog yng Nghymru.
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyflawni Cyfamod y Lluoedd Arfog drwy ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth bwrpasol i’n cymuned Lluoedd Arfog a thrwy gydweithio ac ymgysylltu’n barhaus â rhanddeiliaid.
Cefnogwyr:
Jane Dodds (Canolbarth a Gorllewin Cymru)
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 - Sian Gwenllian (Arfon)
Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cefnogi'r angen i ymdrechu i gael datrysiad heddychlon i bob gwrthdaro a rhoi terfyn ar ryfel.
Yn cofio pawb sydd wedi colli eu bywydau mewn rhyfeloedd a gwrthdaro, gan gynnwys anafusion sifil.
9 Cyfnod pleidleisio
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mercher, 9 Tachwedd 2022